Grantiau

Polisi Grantiau Cyngor Cymuned Ciliau Aeron

Fe osodir ychydig bach o arian pob blwyddyn gan Gyngor Cymuned Ciliau Aeron er mwyn cynnig cefnogaeth ariannol i achosion da.

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer cymorth ariannol gan fudiadau sydd wedi cofrestru fel elusennau ac sy’n gweithredu ar gyfer elusennau; dyngarol neu at bwrpas ddi-elw.

Bydd angen i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddangos bod ei gweithedriadau (yn gyffredinol neu yn benodol) yn dod a budd i:

  1. Ran o’r Gymuned neu Cymuned Ciliau Aeron gyfan; neu
  2. Rhai o’r trigolion neu’r trigolion cyfan

Rhaid i’r ymgeiswyr ddangos manylion o’i mantolen ynghyd â phwrpas unrhyw gefnogaeth ariannol.

Mewn amgylchiadau eithriadol gall Y Cyngor ddefnyddio disgresiwn i anwybyddu mantolen.

Mae’r pendefyniad i gynnig cefnogaeth ariannol yn benderfyniad ar ddisgresiwn Y Cyngor.

Ymestyn Cyngor Cymuned Ciliau Aeron hyd at bentref Cilcennin.

The owner of this website has made a commitment to accessibility and inclusion, please report any problems that you encounter using the contact form on this website. This site uses the WP ADA Compliance Check plugin to enhance accessibility.